Mae Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar filwyr ym Mrwsel nos Wener.

Cafodd tri o filwyr anafiadau yn dilyn y digwyddiad.

Mae asiantaeth newyddion Aamaq yn honni mai Daesh oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar un o wledydd y gynghrair yn erbyn Islamyddiaeth.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ymgais i lofruddio, ond fe gafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw.

Daeth cadarnhad fod yr heddlu’n gwybod amdano fe, ond nad oedd e erioed wedi cael ei amau o droseddau brawychol. Roedd e o dras Somali, ac yn ddinesydd yng Ngwlad Belg.