Mae dyn oedd â chyllell wedi cael ei saethu’n farw ym Mrwsel ar ôl rhedeg at filwyr.
Roedd y dyn wedi bloeddio “Allahu akbar” (“Mae Allah yn dda”) cyn yr ymosodiad, yn ôl swyddfa’r erlynydd, sy’n trin y digwyddiad fel un brawychol.
Dydy’r awdurdodau ddim wedi enwi’r dyn a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oedden nhw’n ei adnabod.
Cafodd milwr ei anafu yn y digwyddiad.
Monitro’r sefyllfa
Ar wefan gymdeithasol Twitter, dywedodd prif weinidog y wlad, Charles Michel fod “ein cefnogaeth i gyd gyda’r milwyr” a bod y sefyllfa’n cael ei monitro.
Mae prif stryd y brifddinas, y Grand Place, ynghau am y tro.
Cafodd diogelwch ei gynyddu ym Mrwsel yn dilyn ymosodiad ar Fawrth 22 y llynedd, pan gafodd 32 o bobol eu lladd.