Mae bws yn cario gweithwyr adeiladu wedi gyrru oddi ar bier yn ne Rwsia, ac mae beth bynnag 14 o bobol wedi’u lladd.

Roedd y gweithwyr yn adeiladu pier bychan ar gyfer cwmni olew ar lannau’r Mor Du nepell o’r Crimea, lle mae nifer o gwmnïau yn drilio am olew.

Fe ddaeth cadarnhad gan Weinyddiaeth Argyfyngau yn rhanbarth Krasnodar fod 38 o bobol ar y bws, ond bod 24 wedi’u hachub gan ddeifwyr sgwba, a 14 wedi marw.

Mae wyth o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty, ac mae pump o’r rheiny mewn cyflwr difrifol.