Mae o leiaf 14 o bobol gyffredin, yn cynnwys merched a phlant, wedi’u lladd gan gyrchoedd awyr ar Sana’a, prifddinas Yemen.

Yn ol tystion, fe ddigwyddodd yr ymosodiadau dros nos, dan arweiniad Sawdi Arabia, ac roedd swn bomio i’w glywed ymhell i oriau mân ddydd Gwener yn ardal Fag Attan.

Mae disgwyl i nifer y rheiny sydd wedi’u lladd gynyddu, wrth i fwy o bobol gael eu tynnu o’r rwbel.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd gwesty ei dao yn Arhab, i’r gogledd o Sana’a, ac fe gafodd 41 o bobol eu lladd.

Mae’r gynghrair o wledydd, dan arweiniad Sawdi Arabia, yn cynnal cyfres o gyrchoedd awyr gan dargedu gwrthryfelwyr Shiaidd a lluoedd sy’n ffyddlon i gyn-arlywydd y wlad, Abed Rabbo Mansour Hadi.