Mae gwrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi’u “hamgylchynu’n llwyr” yn nhref Tal Afar, ôl cyrnol ym myddin yr Unol Daleithiau.

Mae Tal Afar rhyw 93 milltir i ffwrdd o’r ffin â Syria, ac ymysg un o’r trefi olaf dan reolaeth Isis yn Irac.

Yn ôl Cyrnol Ryan Dilson mae’r 2,000 o ryfelwyr IS sydd yno “ar drothwy gorchfygiad arall”. Mae 10,000 o ddinasyddion yn y ddinas o hyd ond mae awdurdodau wedi sicrhau bod modd iddyn nhw adael yn ddiogel.

Y gred ydi mai gwrthryfelwyr o dramor yw’r rhan fwyaf o’r rheiny sy’n ymladd yn enw Isis sydd yno, er bod ambell i ddyn lleol yn eu mysg.