Mae llifogydd monswn wedi lladd mwy na 950 o bobol, ac wedi gorfodi bron i 40 miliwn o bobol o’u cartrefi yng ngogledd India, de Nepal a gogledd Bangladesh.

Mae’r glaw trwm wedi arwain at lifogydd yn yr ardal o gwmpas troed mynyddoedd yr Himalaya mewn tair o wledydd, gan achosi tirlithriadau, difrodi ffyrdd, a llorio gwifrau trydan. Mae cannoedd o gartrefi, ynghyd â chnydau, wedi cael eu golchi ymaith.

Taleithiau Bihar, Uttar Pradesh, Gorllewin Bengal ac Assam yng ngogledd India sydd wedi’u heffeithio waethaf, ac mae 680 0 bobol wedi’u lladd yno, y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi’u boddi. Mae nifer fawr hefyd wedi marw o ganlyniad i dirlithriadau a chael eu brathu gan nadroedd.

Mae cyfnod glaw monswn de Asia yn para rhwng Mehefin a Medi.