Mae un o’r teiffwnau mwyaf pwerus i daro ardal de Tsieina mewn hanner canrif wedi lladd 12 o bobol.

Bu farw wyth a chafodd 153 eu hanafu yn sgil llifogydd pwerus sydd wedi boddi strydoedd y cyn-drefedigaeth Bortiwgeaidd, Macau.

Yn ôl Asiantaeth Newyddion Xinhua, mae pedwar unigolyn arall wedi eu lladd yn nhalaith Guangdong ac mae un person ar goll.

Gwnaeth teiffŵn Hato daro’r ardal ar ddydd Mercher â gwyntoedd 99 milltir yr awr, a throdd yn storm drofannol erbyn ddydd Iau wrth iddo symud o’r arfordir.

Collodd dwy filiwn o gartrefu eu cyflenwadau pŵer a chafodd teithiau awyr a threnau eu gohirio.

Cafodd Hong Kong ei heffeithio gan y teiffŵn ond nid oes adroddiadau o farwolaethau.