Ymosodiad Barcelona - dim cysylltiad â'r bygythiad yn Rotterdam, meddai heddlu Sbaen
Mae fan yn llawn tanciau nwy wedi cael eu darganfod ger clwb yn Rotterdam yn yr Iseldiroedd, ychydig oriau yn uni wedi i gyngerdd roc gael ei ganslo yno.

Mae plât cofrestru Sbaenaidd ar y fan, ond mae awdurdodau yn Sbaen wedi mynnu nad oes cysylltiad rhwng y cerbyd ac ymosodiadau brawychol yn y wlad honno yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y gig ei ganslo wedi i heddlu Sbaen rybuddio awdurdodau yn yr Iseldiroedd am ymosodiad posib. Nid yw’n glir et0 os yw’r fan yn gysylltiedig â’r rhybudd.

Mae gyrrwr y fan yn y ddalfa.

Cafodd y clwb, clwb Maassilo, ei wacau cyn i’r cyngerdd ddechrau.

Y band Americanaidd, Allah-Las, oedd i fod i berfformio yn y cyngerdd, ac mae’n debyg bod y grŵp wedi denu ymateb chwyrn gan Fwslimiaid yn y gorffennol oherwydd eu henw.