Boris Johnson (llun parth cyhoeddus)
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn rhoi £9 miliwn at geisio sefydlogi Libya ac atal brawychaeth a masnachu pobol yn y wlad Affricanaidd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i Ysgrifennydd Tramor Prydain, Boris Johnson, ymweld â ‘Llywodraeth Undod’ Libya – chwe blynedd ers i luoedd Prydain helpu disodli unben y wlad, Muhamar Gaddafi.

Ers hynny, mae Libya wedi ei rhwygo gan wrthdaro a rhyfel cartref ac fe fydd bron hanner yr arian yn mynd at gael gwared ar fomiau tir a bomiau cartref.

Fe rybuddioddd Prif Weinidog Libya y byddai’r wlad yn parhau i allforio brawychwyr i Ewrop os na fydden nhw’n cael help i atal llif mewnfudwyr a ffoaduriaid trwy’r wlad.

Mae Boris Johnson hefyd wedi cynnig rhagor o gymorth gan wasanaeth gwylwyr y glannau er mwyn atal cychod sy’n cario mudwyr.