San'a (San'a HDR CCA 2.0)
Mae dwsinau o bobol wedi marw yn dilyn ymosodiadau o’r awyr ar westy ym mhrifddinas Yemen, Sana’a.
Yn ôl awdurdodau yn Yemen mae tua 60 o bobol wedi cael eu lladd gan yr ymosodiadau gan luoedd cynghrair o wledydd dan arweiniad Sawdi Arabia.
Mae gwrthryfelwyr Houthi Shïaidd a sifiliaid ymysg y meirw a chafodd y gwesty dau lawr ei chwalu yn llwyr, yn ôl llygaid dystion.
Y cefndir
Dechreuodd cyrchoedd awyr y cynghrair yn 2015, pan wnaeth gwrthryfelwyr Houthi ddisodli’r Arlywydd Yemenaidd, Ali Abdullah Saleh.
Hyd yma mae’r brwydro wedi arwain at farwolaeth 10,000 o ddinasyddion ac gorfodi tair miliwn o bobol i ddianc.
Mae nifer o grwpiau ymgyrchu wedi protestio am fod rhai o wledydd y Gorllewin yn cefnogi’r cynghrair.