Raqqa
Mae degau o bobol wedi’u lladd o ganlyniad i gyrchoedd awyr ar ddinas Raqqa yn Syria, yn ôl cyfryngau’r wlad.
 

Mae ymladdwyr Syria, sydd wedi’u cefnogi gan yr Unol Daleithiau, wedi bod yn ceisio cipio dinas Raqqa oddi wrth y Wladwriaeth Islamaidd ers dechrau mis Mehefin.

Yn ôl adroddiadau, maen nhw wedi bod yn gorymdeithio o dan gyrchoedd y glymblaid sydd wedi’u harwain gan yr Unol Daleithiau.

Dywedodd yr Arsyllfa Brydeinig ar Hawliau Dynol yn Syria fod y cyrchoedd awyr wedi lladd 42 o bobol gan gynnwys 19 o blant a 12 o fenywod. 

Mae grŵp gweithredol arall yn mynnu fod 32 o bobol wedi’u lladd mewn un ardal yn unig – gyda chyfryngau’r wlad yn adrodd fod y cyrchoedd awyr wedi lladd “degau o bobol”.