Mae o leiaf un person wedi marw a chwech arall yn sownd dan rwbel, yn dilyn daeargryn ar ynys Eidalaidd, Ischia. 

Yn ôl heddlu mae disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r unigolyn sydd yn sownd yn cael eu tynnu oddi yno yn fyw.

Er hynny mae awdurdodau yn pryderu gall nifer y meirw gynyddu, ac yn gofidio am un person sydd yn sownd dan y rwbel a heb ymateb i ymdrechion y gwasanaeth brys.

Tarodd y daeargryn ychydig funudau cyn 9yh (amser lleol) nos Lun (Awst 21).

Mae’n debyg y cafodd un ddynes ei lladd gan waith carreg a gwympodd oddi ar eglwys, ac mae tri pherson eisoes wedi eu tynnu’n fyw o’r rwbel.

Ardal Casamicciola yn ngogledd yr ynys gafodd ei heffeithio waethaf gan y daeargryn. Casamicciola oedd canolbwynt daeargryn trychinebus yn 1883 lle bu farw 2,000 o bobol.