Vladimir Putin (www.kremlin.ru)
Mae Vladimir Putin wedi penodi cyn-ddirprwy weinidog amddiffyn Rwsia yn llysgennad newydd i’r Unol Daleithiau.

Roedd cyfnod swydd y llysgennad presennol, Sergei Kislyak, yn dod i ben ym mis Gorffennaf ac mae’r Kremlin wedi cadarnhau mai Anatoly Antonov fydd yn cymryd ei le.

Bu Sergei Kislyak yn ffigwr amlwg yn yr honiadau y gallai Rwsia fod wedi chwarae rhan yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau’r llynedd.

Bu’n rhaid i ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol cyntaf Donald Trump, Michael Flynn, ymddiswyddo ar ôl celu ei gysylltiadau â Sergei Kislyak.

Mae’r llysgennad newydd, Anatoly Antonov, wedi bod yn ddirprwy weinidog tramor a chyn-ddirprwy weinidog amddiffyn i Rwsia.