Mosul, Irac
Mae lluoedd Irac wedi gwneud “cynnydd sylweddol” wrth geisio ailfeddiannu tref Tal Afar i’r gorllewin o Mosul, yn ôl llefarydd ar ran y glymblaid sy’n cael ei harwain gan yr Unol Daleithiau.

Dywedodd y Cyrnol fod lluoedd Irac wedi llwyddo i adennill tua 95 milltir sgwâr er nad ydyn nhw wedi mynd i mewn i’r dref ei hun eto.

Mae’n debyg eu bod wedi ennill tiroedd yn ardal Kisik yn nwyrain y dref, ac mae Tal Afar yn un o’r ardaloedd olaf o diriogaeth wedi’i meddiannu gan IS yn Irac a hynny wedi i Irac ddatgan buddugoliaeth yn Mosul fis Gorffennaf.

Mae’r lluoedd yn parhau i frwydro yn erbyn IS yn ninas Raqqa yn Syria, ac fe gyhoeddon nhw yr wythnos diwethaf y bydden nhw’n cynnal cyrchoedd awyr yn Tal Afar.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae 49,000 o bobol wedi ffoi o ranbarth Tal Afar ers mis Ebrill.