Diffyg ar yr haul
Bydd miliynau o bobol yng ngogledd America yn ymgynnull i wylio eclips llwyr o’r haul ganol dydd heddiw.

Dyma fydd y ddiffyg cyntaf i groesi’r Unol Daleithiau – o’r arfordir gorllewinol i’r un dwyreiniol – mewn tua chanrif.

Bydd cysgod yn cael ei dasgu ar y cyfandir wrth i’r lleuad groesi’r haul, ac mi fydd yr eclips ar ei fwyaf amlwg ar hyd llwybr o dalaith Oregon i South Carloina.

 200 miliwn o bobol yn byw o fewn pellter gyrru i’r llwybr hwn, mae trefi a pharciau yn paratoi ar gyfer torfeydd anferth.

Mae’n debyg bydd y gantores o Gymru, Bonnie Tyler, yn perfformio ei chân, ‘Total Eclipse of the Heart’, ar long yn y Caribî yn ystod yr eclips.