Mae deiseb i godi cerflun o’r gantores rap Missy Elliott yn lle’r cerflun Cydffederal yn Virginia wedi denu dros 10,000 o lofnodion.

Dywedodd sylfaenydd y ddeiseb, Nathan Coflin fod Missy Elliott “yn bopeth nad yw’r Cydffederasiwn” a’i fod e am “sathru ar oruchafiaeth pobol â chroen gwyn a’i wyrdroi”.

Cafodd Missy Elliott ei geni yn Portsmouth yn y dalaith, a chafodd hi ei disgrifio gan Nathan Coflin fel “arwres frodorol go iawn”.

Mae’r ddeiseb yn gofyn: “Pwy well i gwmpasu diwylliant ac ysbryd y ddinas mewn cerflun na’r rapwraig, dawnswraig a chynhyrchydd recordiau, Missy ‘Misdemeanor’ Elliott?”

Missy Elliott

Cafodd Melissa Arnette Elliott ei geni ar Orffennaf 1, 1971 yn Portsmouth yn nhalaith Virginia.

Roedd hi’n ferch i ddosbarthydd cwmni pwer ac i weldiwr mewn iard gychod.

Bellach mae hi wedi ennill albwm platinwm ar ôl gwerthu dros 30 miliwn o recordiau.

Daw’r ddeiseb ar ôl i ddynes gael ei lladd yn Charlotesville yn ystod protestiadau gan bobol oedd yn clodfori hawliau pobol â chroen gwyn ger cerflun o’r Cadfridog Robert E Lee.