Mae dyn sydd yn y ddalfa ar amheuaeth o drywanu dau o bobol yn farw yn y Ffindir yn cael ei amau o lofruddiaeth, gyda’r bwriad posib o gyflawni gweithredoedd brawychol.

Roedd y dyn 18 oed, sy’n geisiwr lloches o Foroco, wedi targedu menywod wrth fynd ati i ymosod ar bobol, meddai’r awdurdodau.

Ond cafodd un dyn o wledydd Prydain ei anafu pan geisiodd e atal yr ymosodiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod cyswllt yr ymosodwr â Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – gan fod yr ymosodiad hwn yn debyg i ymosodiadau blaenorol yr oedden nhw wedi hawlio cyfrifoldeb amdanyn nhw.

Mae pedwar o bobol eraill o Foroco yn cael eu holi am eu rhan nhw yn y digwyddiad.

Pobol o’r Ffindir sydd wedi’u lladd, ac wyth o bobol o amryw o wledydd wedi’u hanafu.

Yr ymosodwr

Cafodd yr ymosodwr ei saethu gan yr heddlu, ac mae e’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dydy e ddim wedi cael ei enwi, ond dywed yr awdurdodau iddo ddod i’r Ffindir yn 2016 i geisio lloches.

Mae Interpol yn ymchwilio i gyswllt posib â’r ymosodiad yr wythnos ddiwethaf yn ninas Barcelona.

Dydy hi ddim yn glir eto a oes cyswllt rhwng yr ymosodiad a phenderfyniad llywodraeth y Ffindir fis Mehefin i gynyddu’r lefel risg o ymosodiad.