Mae teyrngedau wedi’u rhoi i gyn-gapten tîm rygbi Seland Newydd, Syr Colin Meads, sydd wedi marw’n 81 oed.

Fe fu’n dioddef o ganser y pancreas.

Cynrychiolodd ei wlad 133 o weithiau rhwng 1957 a 1971, gan gynnwys 55 o gemau prawf.

Dywedodd prif hyfforddwr Seland Newydd, Steve Hansen fod ei berfformiadau’n “rhan o waddol y Crysau Duon” a’i fod yn “un o fawrion y gêm”.

Roedd yn gapten ar y Crysau Duon ar daith hanesyddol y Llewod yn 1971, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr y Ganrif yn Seland Newydd yn 1999.

Roedd yn enwog hefyd am chwarae mewn gêm yn 1970 ar ôl torri ei fraich.

Dywedodd capten presennol y Crysau Duon, Kieran Read, fod hwn yn “ddiwrnod trist ofnadwy” a bod Syr Colin Meads yn “eicon y gêm”.

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi talu teyrnged iddo mae Prif Weinidog Seland Newydd, Bill English, a ddywedodd ei fod yn “cynrychioli popeth sy’n rhan o fod yn un sy’n dod o Seland Newydd”.