Barcelona wedi'r ymosodiad (@VIL_Music-Gwifren PA)
Mae heddlu Sbaen yn ffyddiog fod y gell o eithafwyr Islamaidd a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau yn Barcelona a Cambril bellach wedi ei chwalu.

Mewn cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma, dywedodd Gweinidog Mewnol Sbaen, Juan Ignacio Zoido, fod pum aelod o’r gell wedi cael eu lladd gan yr heddlu, pedwar yn y ddalfa a dau wedi eu lladd mewn ffrwydrad.

Dywedodd nad oedd yn credu bod ymosodiadau eraill ar fin digwydd ond y byddai mesurau diogelwch yn cael eu cryfhau o amgylch safleoedd twristaidd yn y wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Catalunya eu bod nhw’n dal i chwilio am unrhyw aelodau ar ôl o’r gell, ac mai’r flaenoriaeth yw cael hyd i Younes Abouyaaqoub, dyn 22 oed o Morocco.

Ef yw’r dyn sydd wedi cael ei enwi ar gyfryngau Sbaen fel y dyn sydd o dan amheuaeth o yrru’r fan a gafodd ei gyrru i gan torf ar Las Ramblas gan ladd 13 ac anafu bron i 130.

Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio tai yn Ripoll, tref yng ngogledd Catalunya lle’r oedd Abouyaaqoub a’r dynion eraill yn byw.