Rudolf Hess 9llun o wefan wikipedia CC-BY-SA 3.0)
Mae tua 500 o eithafwyr asgell dde wedi bod yn gorymdeithio yn Berlin i nodi 30 mlynedd ers marwolaeth y Natsi Rudolf Hess.
Roedd nifer tebyg o brotestwyr gwrth-natsïaidd yno’n gwrthwynebu’r gorymdeithwyr yn ardal Spandau o brifddinas yr Almaen.
Yng ngharchar Spandau y bu farw Rudolf Hess yn 1987 ar ôl cael ei garcharu am oes yn nhreialon Nuremburg am ei ran yn y Drydedd Reich.
O dan gyfraith yr Almaen, mae hawl gan y neo-natsïaid i orymdeithio, ond nid i glodfori Rudolf Hess, a dydyn nhw ond yn cael cludo un faner i bob 50 o orymdeithwyr.
Nid yw tariannau na helmedau na phastynnau fel oedd gan y neo-natsïaid yn Charlottsville yn America yr wythnos ddiwethaf yn cael eu caniatáu chwaith.