Barcelona wedi'r ymosodiad (@VIL_Music-Gwifren PA)
Mae heddlu Sbaen yn amau mai dyn 22 oed o Morocco oedd gyrrwr y fan a gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad yn Barcelona.

Y gred yw bod Younes Abouyaaqoub yn aelod allweddol o gell o jihadists a oedd yn gyfrifol y gyflafan ar Las Ramblas lle cafodd 13 eu lladd a bron i 130 eu hanafu nos Iau.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y sawl a wnaeth rentu’r fan a gafodd ei gyrru’n wyllt i ganol y dorf ymhlith pump a ddynion a gafodd eu saethu’n farw gan yr heddlu yn nhref glan-môr Cambrils. Roedden nhw ar fin cychwyn ail ymosodiad ar y pryd.

Mae pedwar o ddynion, rhwng 21 a 34 oed, yn dal yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.