Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi cymeradwyo cynlluniau’r Pentagon i greu grŵp seibr annibynnol fydd yn targedu gelynion y wlad.
Donald Trump (llun: AP/David Goldman)

Mae’r cyhoeddiad yn golygu gall grŵp seibr yr Unol Daleithiau dorri i ffwrdd o Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol (NSA) y wlad yn y pen draw.

Yn y cyfamser, mi fydd Donald Trump yn rhoi annibyniaeth pellach i’r grŵp ac yn codi ei statws o fewn byddin y wlad.

Cafodd y cynlluniau eu cynnig gan y cyn-ysgrifennydd Amddiffyn, Ash Carter, yn ystod arlywyddiaeth Barack Obama.

Bydd sefydlu grŵp annibynnol yn golygu y bydd brwydro seibr yn cael ei osod ar yr un lefel a brwydro traddodiadol.