Mae’n bosib bod gyrrwr y fan wnaeth ladd 13 o bobol mewn ymosodiad yn Barcelona, yn un o’r pump a gafodd eu lladd gan heddlu yn ystod ymosodiad brawychol Cambrils.

Digwyddodd yr ymosodiadau yn Barcelona a Cambrils yn Sbaen, prynhawn ddydd Iau ac yn ystod oriau mân y bore yma.

Mae pedwar o’r dynion a gafodd eu lladd wedi eu hadnabod gan heddlu ac mae’n debyg nad oedd y gwasanaeth cudd yn gwybod amdanyn nhw ynghynt.

Tri dyn o Foroco ac un o Sbaen rhwng 21 a 34 blwydd oed yw’r ymosodwyr a gafodd eu lladd.

Dydy’r heddlu ddim wedi adnabod y pumed dyn ac mae o hyd yn aneglur pwy oedd yn gyfrifol am ymosodiad fan Barcelona.

Yn ôl y swyddog heddlu Catalanaidd, Josep Lluis Trapero: “Efallai [mai gyrrwr y fan] oedd un o ymosodwyr Cambrils, dydyn ni ddim yn gwybod eto.”

Y diweddaraf

Rhwng y ddau ymosodiad mae cyfanswm o 14 wedi marw a 130 wedi’u hanafu.

Mae heddlu wedi arestio dau yn gysylltiedig ag ymosodiad Barcelona gan gynnwys dyn 28 o Foroco, Driss Oukabir.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad Barcelona.