Mae arweinydd Mwslimaidd anhysbys am gael ei erlyn mewn llys yn Nenmarc, wedi iddo gymharu hoywon i bedoffiliaid.

Fe wnaeth yr Imam ei sylwadau tra’n cael ei gyfweld yn dilyn yr ymosodiad y llynedd ar hoywon yng nghlwb Pulse yn Orlando, Florida.

Fe gafodd 49 o bobol eu saethu yn farw.

Mae llawer o Fwslemiaid yn credu bod hoywon yn pechu.

Yn ôl yr erlynydd Jan Reckendorff mae sylwadau’r Imam, sydd heb ei enwi, “mor arw” fel ei bod yn briodol i lys barn benderfynu os yw cyfreithiau Denmarc wedi eu torri.

Nid oes dyddiad ar gyfer yr achos.

Fe allai’r Imam gael ei garcharu am ddwy flynedd neu orfod talu dirwyo, os bydd yn euog o ddweud pethau sy’n sarhau, bygwth neu iselhau criw o bobol oherwydd eu hil, lliw, tarddiad ethnig, cred neu duedd rywiol.