Golygfa wedi'r ymosodiad yn Barcelona (@VIL_Music/Gwifren PA)
Mae heddlu Sbaen yn chwilio am yrrwr fan a laddodd 13 o bobol yn yr ymosodiad yn Barcelona ddiwedd y prynhawn ddoe.

Ac fe wnaethon nhw rwystro ymosodiad arall yng Nghatalunya, yn nhref wyliau fechan Cambrils, i’r de o’r brifddinas.

Fe gafodd pump o ymosodwyr eu lladd yn y digwyddiad hwnnw ar ôl ceisio gyrru i ganol ymwelwyr – roedden nhw’n gwisgo gwregysau ffrwydro.

Chafodd neb arall eu lladd yn yr ymosodiad hwnnw, ond fe gafodd saith eu hanafu.

Ymosodiad Barcelona

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Barcelona tua pump o’r gloch brynhawn ddoe ar stryd Y Rambla, stryd brysura’ Barcelona, lle bydd degau o filoedd o bobol yn cerdded rhwng canol y ddinas a’r môr.

Roedd y fan Fiat wen wedi ei gyrru i ganol y tyrfaoedd ac fe gafodd 13 o bobol eu lladd a mwy na 100 eu hanafu.

Mae nifer o dystion wedi sôn am anhrefn a phanic yn ystod y digwyddiad ac, yn ôl yr heddlu, roedd y meirw’n dod o nifer o wledydd gwahanol.

Erbyn hyn, ymwelwyr yn fwy na phobol leol, sy’n cerdded hyd y Rambla,

Y diweddara’

  • Er fod dau berson wedi eu harestio, dyw gyrrwr y fan ddim yn un ohonyn nhw.
  • Roedd heddlu wedi dod o hyd i basport dyn o Morocco o’r enw Driss Oukabir ar y safle, ond mae’n dweud bod ei bapurau wedi eu dwyn.
  • Mae Llywodraeth Catalunya wedi cyhoeddi y bydd tri diwrnod o alaru cyhoeddus.
  • Fe fydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal yn Placa Catalunya, prif sgwâr Barcelona, yn ddiweddarach heddiw.