Mae gwrthblaid Cenia wedi mynnu y byddan nhw’n herio canlyniad etholiad arlywyddol wythnos ddiwethaf yng ngoruchaf lys y wlad.

Arweiniodd yr etholiad ar Awst 8, at Uhuru Kenyatta yn esgyn unwaith eto i rôl yr Arlywydd. Mae gwrthblaid y wlad yn mynnu cafodd y bleidlais ei rigio a’i hacio.

Mae arweinydd yr wrthblaid, Raila Odinga, wedi dweud na fydd yn caniatáu “mwrdwr democratiaeth” ac na fydd “yn derbyn [y canlyniad] a symud ymlaen.”

“Wnawn ni gynnal gwylnosau, munudau o dawelwch, curo drymiau a gwneud popeth arall i dynnu sylw at yr anghyfiawnderau etholiadol aruthrol,” meddai Raila Odinga.

Mae’n bosib gall sylwadau Raila Odinga arwain at gyfres newydd o brotestiadau yn y brifddinas, Nairbobi – mae dwsinau o bobol eisoes wedi’u saethu’n farw yno ers y bleidlais.