mesur refferendwm Catalonia yn cael ei drafod heddiw (dydd Mercher, Awst 16) mae un o lysgenhadon anffurfiol y rhanbarth wedi rhannu pryderon am strategaeth “ofn” Llywodraeth Sbaen.

Mae Llywodraeth answyddogol Catalonia eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cynnal refferendwm annibyniaeth ar Hydref 1, ac mae disgwyl bydd y ddogfen byddai’n ei chaniatáu yn gyfreithiol yn cael ei drafod heddiw. 

Yn fwy na thebyg, fe fydd Biwro Senedd Catalonia yn caniatáu trafodaeth ar y mesur, ond mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen wedi rhybuddio y gall hyn arwain at gyhuddiadau troseddol.  

Mae Llywodraeth Sbaen eisoes wedi rhybuddio gall deddfwriaethwyr a gweinidogion Catalanaidd golli eu swyddi am gefnogi’r refferendwm, ond “cachu rwtsh” yw’r tactegau “ofn” yma yn ôl cyfieithydd o Wlad y Basg sy’n rhugl ei Chymraeg.

“Mae yna neges o ofn [gan Lywodraeth Sbaen],” meddai Begotxu Olaizola wrth golwg360. “Mi oedd plaid Sbaen yn dweud y bydden nhw’n gwneud rhywbeth yn erbyn gweision sifil sydd yn helpu gyda’r refferendwm. Ond neges o ofn heb reswm yw hyn.

“Dyna’r math o strategaeth mae Llywodraeth Sbaen wedi’i ddefnyddio. Unrhyw ffordd o roi ofn i’r bobol … Does dim rhaid i weision sifil gymryd rhan o gwbl felly mae hynna yn cachu rwtsh.

“Mae’n creu sefyllfa lle mae pobol yn dechrau poeni.”

“Symud pobol”

Yn ôl Begotxu Olaizola, mae’r neges yma yn debygol o gael effaith ar y refferendwm ac mae’n pryderu na fydd pobol yn pleidleisio o’i herwydd.

“Ydy hi’n mynd i gael ei drefnu yn iawn ac ydy pobol yn mynd i gymryd rhan,” meddai.  “Pwy a wyr? Oherwydd mae neges Sbaen yn rhoi ofn i bobol, gan ddweud bod yr holl beth ddim yn mynd i ddigwydd ac yn ei [ddiystyru].

“Dyna un o’r heriau. Symud pobol – hyd yn oed y rhai sydd yn meddwl pleidleisio ‘na’ – [i bleidleisio]. Mae ymgyrch ymlaen o’r enw ‘Chi Sy’n Penderfynu’, sy’n symud pobol i gymryd rhan. Mae angen rhoi’r neges bod y refferendwm yn rhywbeth normal – ymarferiad democrataidd – a’i fod yn mynd i ddigwydd.”

Cysylltiadau

Mae Begotxu Olaizola yn nodi fod strategaeth Llywodraeth Sbaen yn debyg i strategaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y refferendwm yr Alban.

Mae hefyd yn tynnu sylw at ymdeimlad cyffredin rhwng ymgyrchwyr annibyniaeth yng Nghymru, Catalonia, yr Alban ac yng Ngwlad y Basg.

“Beth sydd yn gyffredin, yw bod pobol eisiau penderfynu yn y ganrif yma,” meddai. “Eisiau cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac eisiau dewis a chreu’r dyfodol. Ddim eisiau gadael pethau i’r gwleidyddion. Mae hyn yn glir yn achos Catalonia.”