irMae disgwyl i gyrchoedd awyr gan Irac a chlymblaid wedi’i arwain gan yr Unol Daleithiau ddwysáu yn ardal Tal Afar yn y wlad sy’n un o gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Daw hyn wrth i luoedd Irac ennill tir yn raddol ar y dref i’r gorllewin o Mosul, ond nid oes disgwyl i’r lluoedd fynd i mewn i’r dref am rai wythnosau eto.

Dywedodd cadlywydd llu awyr Irac fod cyfres o gyrchoedd awyr yr wythnos hon wedi targedu pencadlys y grŵp IS, twneli ynghyd â storau arfau.

Mae’r ardal o gwmpas Tal Afar yn un o’r ardaloedd olaf o diriogaeth wedi’i meddiannu gan IS yn Irac a hynny wedi i Irac ddatgan buddugoliaeth yn Mosul fis Gorffennaf.

Ar un adeg, roedd Tal Afar yn gartref i Dyrcmeneg o dras Sunni a Shiite ac fe allai’r symudiad gynyddu tensiynau rhwng Irac a Thwrci.

Mae Twrci wedi rhybuddio na ddylai gweithrediadau milwrol o gwmpas Mosul arwain at newidiadau demograffig ar y ddaear.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae 49,000 o bobol wedi ffoi o ranbarth Tal Afar ers mis Ebrill.