Mae Arlywydd Iran wedi rhybuddio’r gorllewin y gallai ei wlad “adfywio” ei chynllun niwclear “o fewn dim”.

Mae’n debyg fod sylwadau Hassan Rouhani yn deillio o ddeddfwriaeth newydd gan yr Unol Daleithiau sy’n gosod dirwyon ar bobol sy’n rhan o gynllun taflegryn balistig Iran.

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth senedd Iran gynyddu gwariant ar gynllun taflegryn balistig sydd i’w gweld fel ymateb i ddeddfwriaeth yr Unol Daleithiau ar ddirwyon.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio hefyd at sancsiynau brawychol i’r Warchodfa Chwyldroadol ac yn cynnal yr embargo ar arfau.

Ac yn ôl Hassan Rouhani, fe allai Iran ddatblygu’r cynllun niwclear i “lefelau uwch” os yw’r “sancsiynau a’r bygythiadau” yn parhau.

Roedd y cytundeb dwy flynedd yn ôl rhwng Iran ac arweinwyr byd yn rheoli lefelau wraniwm Iran yn gyfnewid am godi sancsiynau rhyngwladol.