Mali
Mae dynion arfog wedi ymosod ar bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn ninas Timbuktu, gan ladd saith o bobol ac anafu saith arall.

Yn ol yr awdurdodau, mae chwech o ddynion yn cario gynnau wedi’u lladd gan filwyr y Cenedloedd Unedig yn ystod yr ymosodiad yng ngogledd gwlad Mali.

Yn gynharach, roedd gwyr arfog wedi yosod ar ddau wersyll y Cenehedloedd Unedig yn Douentza yng nghanolbarth y wlad, gan ladd un milwr ac un aelod o lu cadw heddwch y CU.

Y gwaith o geisio cadw heddwch yn Mali sy’n cael ei ystyried y peryclaf o blith yr 16 ymgyrch sydd gan y Cenhedloedd Unedig, ac mae’r colledion diweddaraf ymhlith y trymaf.