Fe fydd Tsieina yn rhoi’r gorau i fewnforio mathau penodol o gynnyrch gan Ogledd Corea o Fedi 5 ymlaen, yn ôl swyddogion y wlad.

Mae mwyn haearn, glo a physgod ymysg y cynnyrch bydd yn cael eu heffeithio, a daw’r cam dan ambarél sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig ar raglen niwclear Gogledd Corea.

Tsieina yw prif bartner masnach Gogledd Corea a hyd yma mae’r wlad wedi bod yn amharod i roi gormod o bwysau ar ei gymydog, gan bryderu gallai’r wladwriaeth chwalu.

Er hynny mae Beijing yn raddol yn colli amynedd â Pyongyang, a daw cyhoeddiad y sancsiynau yn sgil wythnos o groesi cleddyfau rhwng Arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Bydd sancsiynau diweddaraf y Cenhedloedd Unedig yn atal gwerth £768 o fasnach o Ogledd Corea.

Mae Tsieina yn parhau i wrthwynebu rhwystrad llwyr o fasnach â Gogledd Corea gan ddadlau y byddai’n achosi newyn helaeth.