Eithafwyr Islamaidd sy’n cael eu hamau am ymosod ar fwyty Twrcaidd sy’n boblogaidd gyda thwristiaid ym mhrifddinas Burkina Faso, gan ladd 17 o bobol.

Dyma’r ail ymosodiad brawychol ar fwyty yno ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad, sydd wedi esgor ar saethu ac ymladd ar y strydoedd.

Ymhlith y 17 sydd wedi’u lladd, mae yna bobol o wahanol wledydd, yn cynnwys beth bynnag un dinesydd o Ffrengig.

Ben bore Llun, mae cerbydau arfog a lluoedd diogelwch i’w gweld ar y strydoedd yng nghyffiniau bwyty Aziz Istanbul yn Ouagadougou.

Mae’r digwyddiad diweddaraf hwn wedi dwyn atgofion am yr ymosodiad ar gaffi arall yn y ddinas ym mis Ionawr, 2016, pan laddwyd 30 o bobol.