(map o wefan wikipedia)
Mae chwech o gyrff wedi cael eu darganfod mewn dau fws a ddiflannodd o dan fwd o dirlithriad o ganlyniad i law monsŵn trwm yng ngogledd India.

Fe wnaeth y tirlithriad yn nhalaith Himachal Pradesh gladdu rhan o ffordd a dau fws a thri char.

Cafodd llawer o dai hefyd eu dinistrio yn y tirlithriad.

Mae’r ardal o gwmpas wedi cael ei dad-fforestu yn helaeth, fel llawer ardal arall yn India sydd wedi dioddef llifogydd a thirlithriadau yn ddiweddar.