Mae’r Dalai Lama wedi gohirio ymweliad â Botswana oherwydd “blinder dwys”.
Mewn datganiad ar ei wefan, fe ddywedodd ei fod e wedi ysgrifennu at Arlywydd y wlad yn ymddiheuro.
Roedd disgwyl i’r arweinydd 82 oed deithio yno ddydd Mawrth.
Ond roedd llywodraeth China wedi ei rybuddio i beidio â mynd.
Dywedodd y Dalai Lama ei fod e wedi cael cyngor meddygol i beidio â theithio’n bell am y tro.