Mae 25 wedi marw mewn damwain drên yn ninas Alexandria ar arfordir yr Aifft, ac mae 65 arall wedi eu hanafu, yn ôl swyddogion y wlad.
Fe darodd dau drên ei gilydd yn ardal Khorshid heddiw yn ôl pennaeth gwasanaeth ambiwlans gorllewin y ddinas, Dr Mohamed Abu Homs.
Nid oes unrhyw wybodaeth hyd yma ynghylch achos y ddamwain.
Roedd yn trên yn teithio o gyfeiriad Cairo a’r llall yn dod o ddinas Port Said.
Mae Dr Homs yn ofni y bydd nifer y meirw a’r rhai sydd wedi eu hanafu yn cynyddu.