Mae corwynt Franklin wedi bod yn achosi difrod a helynt ar arfordir Mecsico, gan achosi llifogydd a thirlithriadau.

Dyma gorwynt cyntaf tymor yr Iwerydd, pan gyrhaeddodd dros benrhyn Yucatan yn gynharch yr wythnos hon.

Mae’r awdurdodau yn Veracruz – lle’r oedd canolbwynt y storm – wedi cau ysgolion, gan fod ysgolion yn cael eu defnyddio’n aml fel llochesi yn ystod tywydd gwael.

Mae gwyntoedd Franklin wedi cyrraedd 85 milltir yr awr, ond mae disgwyl iddo wanhau heddiw wrth droi tua’r tir mawr oddi ar y mor.

Mae rhybudd corwynt mewn grym ar yr arfordir rhwng dinas Veracruz city i Cabo Rojo tua’r gogledd. Mae’r awdurdodau’n cadw llygad ar ardal ehangach hefyd, o Cabo Rojo i Rio Panuco.

Mae rhagolygon yn rhybuddio hefyd y gallai rhwng pedair ac wyth modfedd o law syrthio, gyda rhai mannau yn gweld hyd at 15 modfedd o law.