Kim Jong Un: pedwar taflegryn yn barod...
Mae Gogledd Corea wedi amlinellu ei bwriad i danio cyfres o daflegrau balistig i gyfeiriad Guam, gan ddiystyru bygythiadau Donald Trump i danio’n ôl fel “llwyth o nonsens”.

Fe ddaeth y rhybudd gan lywodraeth Pyongyang am ei bwriad i danio pedair o’i thaflegrau Hwasong-12 dros diroedd Japan ac i’r dwr yng nghyffiniau Guam, y diriogaeth fechan dan reolaeth America yn y Mor Tawel.

Yno, lle mae 160,000 o bobol yn byw, mae gan yr Unol Daleithiau 7,000 o filwyr ar ddau safle.

Fe allai’r cynllun, meddai Pyongyang, fod yn weithredol o fewn yr wythnos, unwaith y  byddai’r arweinydd, Kim Jong Un, yn rhoi sel ei fendith.