Mae dyn wedi’i ddedfrydu i 20 mlynedd yng ngharchar gan lys milwrol yng Ngwlad Thai, a hynny am amharchu’r frenhiniaeth.

Mae’r grwp monitro, iLaw, yn dweud i’r dyn sy’n cael ei adnabod yn unig wrth ei enw cyntaf, Tara, er mwyn gwarchod ei breifatrwydd, wedi’i gael yn euog o chwech achos o lwytho ar y we fideos gan unigolyn oedd yn beirniadu’r frenhiniaeth.

Roedd ‘Tara’ wedi bod dan glo ers mis Ionawr 2015, ac roedd wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn er mwyn osgoi cosb lem iawn.

Dyna pam fod y llys wedi dod â’r cyfnod yng ngharchar am bob un o’r troseddau i lawr o bum mlynedd yng ngharchar, i dair blynedd a hanner. Y gosb waethaf fyddai 15 mlynedd am bob trosedd.