Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn frawychol ar filwyr drwy yrru car BMW atyn nhw y bore yma.

Cafodd chwech o bobol eu hanafu yn y digwyddiad yn Levallois, sy’n gartref i brif ganolfan gudd-wybodaeth Ffrainc, Sentinelle, a gafodd ei hagor ar ôl ymosodiadau brawychol yn 2015.

Fe lwyddodd y gyrrwr i ffoi ar gyflymdra uchel, ond ni chafodd unrhyw un anafiadau sy’n peryglu eu bywydau, er bod dau wedi cael anafiadau difrifol.

Dywedodd llygad-dystion eu bod nhw wedi gweld y car yn aros mewn cul-de-sac cyn yr ymosodiad, a bod y milwyr yn gadael adeilad y DGSI wrth iddyn nhw gael eu taro.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac fe fu’r awdurdodau’n edrych ar luniau camerâu cylch-cyfyng i geisio adnabod y car a’r gyrrwr.

BMW

Cafodd y car ei stopio ar ffordd A16 ac fe gafodd y gyrrwr ei arestio ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu i geisio ei dawelu.

Mae erlynwyr wedi dechrau achos a fydd yn arwain at gyhuddo mewn perthynas â gweithred frawychol gyda’r bwriad o geisio llofruddio.

Yn dilyn yr ymosodiad, mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi addo gwario mwy o arian ar y lluoedd arfog a tynhau mesurau diogelwch.

Mae disgwyl i’r llywodraeth gyhoeddi deddfwriaeth newydd sy’n cwmpasu rhai o’r mesurau a gafodd eu cyflwyno fel rhan o argyfwng yn dilyn ymosodiadau’r blynyddoedd diwethaf.