Mae’r awdurdodau ym Mharis yn chwilio am yrrwr BMW yn dilyn yr ymosodiad ar griw o filwyr yn y ddinas y bore ma.
Dywedodd yr awdurdodau fod yr ymosodiad yn Levallois yn weithred “fwriadol, heb os”, ond dydyn nhw ddim yn gwybod eto beth oedd ei gymhelliad.
Mae chwech o bobol eu hanafu – dau ohonyn nhw’n ddifrifol – cyn i’r gyrrwr ffoi ar gyflymdra uchel.
Roedd y milwyr yn gweithio i Sentinelle, canolfan a gafodd ei sefydlu yn 2015 yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol.
Yn ôl llygad-dystion, roedd y car yn aros mewn cul-de-sac ger yr adeilad cyn yr ymosodiad.
Cafodd y milwyr eu taro wrth adael yr adeilad ar eu ffordd i gerbyd oedd yn mynd i’w cludo nhw i’w gweithle ar gyfer eu shifft.
Mae’r awdurdodau’n edrych ar luniau o gamerâu cylch-cyfyng i geisio adnabod y cerbyd a’r gyrrwr.
Mae disgwyl i bennaeth heddlu Paris a’r erlynydd rhanbarthol ymweld â’r safle, sydd wedi’i ddiogelu â ffens am y tro.
Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron yn cynnal cyfarfod diogelwch brys ar hyn o bryd – ond roedd hwnnw wedi’i gynllunio cyn yr ymosodiad.