Mae o leiaf 13 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn daeargryn ar gyrion parc cenedlaethol yn ne-orllewin China.

Cafodd 175 o bobol eu hanafu yn yr ardal sy’n boblogaidd ymhlith twristiaid.

Roedd y daeargryn yn mesur 6.5 ar raddfa Richter, ac fe effeithiodd ar linellau ffôn a chyflenwad trydan yr ardal.

Mae ymdrechion ar y gweill i ddod o hyd i oroeswyr.

Mae Arlywydd y wlad, Xi Jinping wedi galw am ymateb brys i’r trychineb ar gyrion taleithiau Sichuan a Gansu, sy’n gartref i nifer o gymunedau lleiafrifol ger parc cenedlaethol Dyffryn Juizhai sy’n adnabyddus am raeadrau.

Mae lle i gredu bod pump o’r rhai fu farw’n dwristiaid, a bod 28 o bobol mewn cyflwr difrifol.

Mae mwy na 30,000 o dwristiaid wedi cael eu symud i ardal ddiogel.

Yn dilyn y daeargryn cyntaf, fe darodd ail ddaeargryn yn ngogledd-orllewin China oedd yn mesur 6.3 ar raddfa Richter.