Rio de Janeiro
Mae adroddiadau fod dynion arfog wedi tanio gynnau at deulu o wledydd Prydain tra’r oedden nhw ar wyliau ym Mrasil, a bod un ddynes wedi’i hanafu.
Yn ôl Heddlu Brasil roedd cwpwl a thri o blant yn teithio yn Angra dos Reis, cyrchfan wyliau boblogaidd tua 90 milltir o Rio de Janeiro.
Mae adroddiadau’n honni fod car wedi gyrru atyn nhw gan ddweud iddyn nhw fynd o’r ffordd cyn dechrau saethu.
Mae datganiad yr heddlu yn nodi fod y ddynes wedi’i tharo yn ei abdomen ac yn cael ei thrin yn yr ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor – “rydym mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol yn Angra dos Reis, Brasil, yn dilyn adroddiadau o saethu dinesydd Prydeinig.”