Cyngor Diolgelwch y Cenhedloedd Unedig
Mae Gogledd Corea wedi dweud y bydd yn dial ar yr Unol Daleithiau ar ôl i sancsiynau llym gael eu gosod gan y Cenhedloedd Unedig ar ôl i’r wlad gynnal profion tanio taflegrau.

Daw’r cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gymeradwyo sancsiynau newydd i gosbi Gogledd Corea, gan gynnwys gwahardd allforion o lo a nwyddau eraill sy’n werth mwy na £770 miliwn.

Yn ôl y datganiad, mae’r sancsiynau newydd yn “gynllwyn ffiaidd gan yr Unol Daleithiau i ynysu” Gogledd Corea.

Ni fydd sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig yn gorfodi’r wlad i roi’r gorau i’w rhaglen niwclear, meddai’r datganiad.

Ychwanegodd y bydd y wlad yn “gweithredu” ond nid oedd yn ymhelaethu.