Mae trefnwyr Pencampwriaethau’r Byd yn Llundain wedi gwadu eu bod nhw wedi symud seremoni cyflwyno medalau oherwydd pryderon am yr ymateb y bydd yr enillydd yn ei gael.

Yr Americanwr Justin Gatlin enillodd ras 100 metr y dynion yn y Stadiwm Olympaidd neithiwr, gan guro Usain Bolt o Jamaica yn ei ras 100 metr olaf cyn ymddeol.

Ond fe gafodd yr enillydd ymateb gelyniaethus cyn ac ar ôl y ras yn sgil y ffaith ei fod e wedi cael ei wahardd sawl gwaith yn y gorffennol am gymryd cyffuriau.

Mae’r seremoni wedi cael ei symud o 8 o’r gloch heno i 6.50pm – ddeg munud cyn i sesiwn y nos ddechrau, sy’n golygu o bosib na fydd pawb yn eu seddi erbyn i’r seremoni ddechrau.

Seremoni’r naid hir fydd yn cael ei chynnal am 8 o’r gloch.

“Rhesymau gweithredol” yw eglurhad y trefnwyr, yn ôl adroddiadau.

Medal efydd y bydd Usain Bolt yn ei derbyn.