Mae’r heddlu ym Mharis wedi arestio dyn oedd â chyllell yn ei feddiant ger Tŵr Eiffel.

Cafodd yr adeilad ei wagio dros dro, ond ni chafodd unrhyw un ei anafu ychydig cyn i’r adeilad gau neithiwr.

Mae’r tŵr ar agor heddiw.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi ceisio mynd heibio swyddogion diogelwch ond fe gafodd ei ddal yn gyflym.

Dydy’r heddlu ddim wedi enwi’r dyn, a dydyn nhw ddim wedi dweud beth oedd ei gymhelliad.