Ar ôl i’r Americanwr Justin Gatlin guro Usain Bolt yn y ras 100 metr ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Llundain neithiwr, mae prif weinidog Jamaica wedi galw am waharddiad oes ar athletwyr sy’n cymryd cyffuriau.

Gorffennodd Usain Bolt yn drydydd yn ei ras 100 metr olaf erioed.

Mae Justin Gatlin wedi cael ei wahardd ddwywaith yn ystod ei yrfa am gymryd cyffuriau, ac fe gafodd e ymateb gelyniaethus gan y dorf ar ôl y ras yn y Stadiwm Olympaidd neithiwr.

Dydy prif weinidog Jamaica, Andrew Holness ddim wedi beirniadu Justin Gatlin yn uniongyrchol, ond fe ddywedodd fod rhaid i’r cyrff sy’n llywodraethu athletau gyflwyno cosbau llymach am dwyllo.

“Ond ar yr un pryd, unwaith mae’r person hwnnw wedi cael ei gosbi, mae wedi gwneud ei ddedfryd ac mae’r corff llywodraethu wedi gadael iddo ddychwelyd i’r gamp, ac felly does gen i ddim sylw ynghylch a yw’r fuddugoliaeth yn haeddiannol ai peidio – enillodd Gatlin y ras.”

Gwahardd am oes

Mewn cyfweliad â BBC Radio 5 Live, dywedodd Andrew Holness mai gwahardd athletwyr am oes yw’r “unig ffordd o sicrhau nad yw pobol yn twyllo yn y gamp”.

Gorffennodd Usain Bolt yn drydydd y tu ôl i Christian Coleman, oedd yn ail yn y ras.

Ychwanegodd: “Yn sicr, ry’n ni’n ddigalon ond yn dathlu o hyd gan fod Usain Bolt yn gymaint o seren yn y byd chwaraeon, mae ei gyflawniadau fwy na thebyg yn oruwchddynol ond ar ddiwedd y dydd, ry’n ni i gyd yn fodau dynol ac weithiau mae’r pethau hyn yn digwydd.

“Ond ry’n ni’n gweld Usain Bolt fel ein harwr ni yma yn Jamaica. Mae e’n un o’r mawrion.

“Mae pobol Jamaica yn ei garu o hyd a dw i’n credu bod y byd yn dal i garu Usain Bolt.”

‘Glân’

Ychwanegodd mai’r peth pwysicaf oedd ei fod e’n athletwr “glân” a bod hynny’n “ychwanegu cymaint at werth yr hyn y mae e wedi llwyddo i’w gyflawni”.

“Dw i ddim yn credu y bydd unrhyw un arall yn ystod ein bywydau ni na bywydau i ddod yn cyflawni’r hyn y mae e wedi’i gyflawni.”