Kim Jong-un (Llun: PA)
Mae prif ddiplomyddion de-ddwyrain Asia wedi beirniadu Gogledd Corea am gynnal profion newydd ar daflegrau balistig rhyng-gyfandirol.

Maen nhw wedi annog Pyongyang i gydymffurfio â’u dyletswydd fel aelod o fforwm diogelwch mwyaf Asia o gynorthwyo i atal gwrthdaro ar y cyfandir.

Ond mae barn gweinidogion tramor wedi’i hollti ar ôl i’r Unol Daleithiau gynnig cyflwyno sancsiynau a gwahardd Pyongyang dros dro o’r fforwm sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Ogledd Corea, yr Unol Daleithiau, De Corea a Siapan.

Ategodd y gweinidogion eu pryderon y gallai’r gwrthdaro waethygu ymhellach ar ôl i Ogledd Corea gynnal dau brawf o’r newydd fis diwethaf.

Maen nhw hefyd wedi galw am wella’r berthynas rhwng De Corea a Gogledd Corea er mwyn adfer heddwch rhwng y ddwy wlad.

Bydd y fforwm yn cyfarfod i drafod y sefyllfa ddydd Llun.