Mae dau ddyn yn Awstralia wedi’u cyhuddo o droseddau yn ymwneud â brawychiaeth, a hynny mewn cysylltiad â chynllun i orfodi un o awyrennau cwmni Etihad i lawr i’r ddaear.
Mae’r dynion, 49 a 32 oed, wedi’r cyhuddo o ddau achos o gynllunio gweithred frawychol.
Maen nhw ymhlith pedwar o ddynion gafodd eu harestio yn ystod cyfres o gyrchoedd yn Sydney ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae trydydd dyn yn dal i fod yn y ddalfa heb ei gyhuddo eto, tra bod pedwerydd dyn wedi’i ryddhau yn ddi-gyhuddiad ddydd Mawrth.
Bryd hynny, fe ddywedodd cwmni Etihad Airways ei fod yn cydweithio gyda’r awdurdodau.