Mae llifogydd yng ngogledd a dwyrain Gwlad Thai wedi lladd beth bynnag 23 o bobol, ac mae dau o bobol yn dal i fod ar goll.

Mae’r awdurdodau yn amcangyfrif fod gwerth 10 biliwn baht (£226m) wedi ei achosi mewn deg talaith sydd wedi dioddef glaw trwm.

Mae 721,500 o bobol wedi’u heffeithio, a hynny dros arwynebedd o 1,554 cilomedr sgwar o dir ffermio reis.

Yr ardal sydd wedi’i heffeithio waethaf ydi Sakon Nakhon, tua 400 milltir i’r dwyrain o Bangkok. Mae naw o bobol wedi marw yn y fan honno.