Mae merch 15 oed a gafodd ei geni yn yr Almaen wedi cael dychwelyd i’r wlad ddeufis ar ôl iddi gael ei halltudio i Nepal.

Mae’r awdurdodau wedi rhoi’r hawl iddi fynd yn ôl ar fisa myfyriwr.

Symudodd ei rhieni o Nepal i’r Almaen yn 1998, ond cafodd eu cais am loches ei wrthod ar ôl i’w thad roi ffugenw i’r awdurdodau.

Cafodd y teulu eu halltudio i Nepal ar Fai 29, ar ôl i’r ferch gael ei thynnu o’r ystafell ddosbarth yn ei hysgol yn Duisburg. Ond fe fu protestiadau gan ei chyd-fyfyrwyr, ei rhieni a chefnogwyr eraill.

Fis diwethaf, dywedodd yr awdurdodau y byddai hi’n cael dychwelyd i’r wlad gyda’i rhieni am resymau dyngarol, ond nad oedd yn gynsail ar gyfer achosion eraill.